Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-01-14: Papur 1
GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR
CLA337 - Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Ceredigion (Diddymu) a Choleg Ceredigion (Sefydliad Dynodedig mewn Addysg Bellach) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r gorchymyn hwn yn diddymu, yn weithredol o 31 Rhagfyr 2013, y gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i arwain Coleg Ceredigion, ac mae'n dynodi Coleg Ceredigion yn goleg newydd a arweinir gan sefydliad dynodedig a elwir yn Coleg Ceredigion.
Mae'r gorchymyn hefyd yn trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau y gorfforaeth flaenorol i'r coleg newydd. Caiff y staff a gyflogir gan y gorfforaeth flaenorol ar adeg ei diddymu eu trosglwyddo i'r sefydliad newydd.
CLA338 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1992 ("Rheoliadau 1992"). Mae Rheoliadau 1992 yn nodi'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau ardrethu annomestig a delir gan awdurdodau lleol i'r gronfa ardrethu annomestig genedlaethol. Caiff yr arian o'r gronfa hon ei ailddyrannu i awdurdodau lleol ar sail amcangyfrifon a gyflwynir sy'n seiliedig ar ffigurau'r boblogaeth oedolion.
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy ddefnyddio ffigurau newydd yr awdurdodau lleol o ran y boblogaeth oedolion ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2014, neu ar ôl hynny.
CLA339 – Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Mae'r diwygiadau yn estyn rhai mesurau trosiannol o dan gyfraith yr UE mewn perthynas â hylendid bwyd a rheolaethau swyddogol ar gyfer cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a rhai rhanddirymiadau sy'n ymwneud ag amodau achredu labordai sy'n cynnal profion Trichinella ar samplau a gymerwyd fel rhan o reolaethau swyddogol.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud mân-ddiwygiadau i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 i gywiro cyfeiriad gwallus at rif paragraff a chyfeiriad at hen gorff proffesiynol, yn y drefn honno.
CLA340 - Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Adran 84 o Orchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ("Deddf 2013") yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ("Cynllun"). Mae Adran 85 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyflwyno ei Gynllun drafft i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo cyn i'r Cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi. At hynny, mae Adran 86 o Ddeddf 2013 yn darparu y gall Gweinidogion Cymru ofyn i awdurdod lleol gynnal asesiad o'r galw ymhlith rhieni yn ei ardal am addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant.
CLA349 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("y Ddeddf").
Mewn perthynas â Chymru, caiff y lluosydd ardrethu annomestig ei gyfrifo ym mhob blwyddyn ariannol na chaiff rhestrau newydd eu llunio ynddi. Mae 2014 yn flwyddyn o'r fath. Gwneir y cyfrifiad drwy gyfeirio at fformiwla a nodir ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i'r Ddeddf. Mae'r fformiwla yn cynnwys eitem "B", sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer, yn yr achos hwn, mis Medi 2013.
Fodd bynnag, mae paragraff 5(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i nodi swm arall ar gyfer B, cyhyd ag y bo'r swm hwnnw yn llai na'r mynegai prisiau manwerthu perthnasol. Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2014, y bydd B yn "249".